Dawnsio Gwerin Llanymddyfri     llandoveryfolkdancing.co.uk

Croeso i'r tudalen Cymraeg


Twm Twp - Photograph by Mike Turtle

Grwp anffurfiol o bobl sy’n dod at ei gilydd i gael hwyl trwy ddawnsio gwerin yw Grwp Dawnsio Gwerin Llanymddyfri. Mae Grwp Dawnsio Gwerin Llanymddyfri wedi parhau â’r traddodiad o sesiynau dawnsio misol ers 1994 pan ffurfiwyd y grwp.

Fel arfer, daw y dawnsiau o un o wledydd Ynysoedd Prydain, sef Cymru, Iwerddon, yr Alban, Iwerddon, Lloegr, Cernyw neu Ynys Manaw. O bryd i’w gilydd bydd cyfle i brofi arddulliau o’r tu hwnt i Brydain, er enghraifft dawnsio Llydewig neu ddawns gylch o Ddwyrain Ewrop. Hefyd gallai’r math o ddawns ddod o gyfnod hanesyddol arbennig, er enghraifft Playford, neu fod yn arddull ynddo’i hun, er enghraifft clocsio.

Gyda rhai eithriadau, ryn ni’n cwrdd yn rheolaidd ar y drydedd nos Wener pob mis (heblaw mis Awst). Mae’r dawnsio’n dechrau tua 7.30 pm ac mae'r sesiynau'n gorffen tua 10.30pm a’r digwyddiadau mwy’n parhau tan yn hwyrach.

Twm Twp - Photograph by Mike Turtle

Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n dawnsio ers rhai blynyddoedd ond mae pob amser groeso i ddechreuwyr sydd eisiau ’rhoi cynnig arni’ a dawnswyr mwy profiadol sy’n dod â brwdfrydedd a diddordeb newydd. Bydd croeso cynnes i chi p’un a ydych chi’n dod ar eich pen eich hun neu gyda phartner, teulu, plant neu rywun arall. Mae’r awyrgylch yn anffurfiol ac mae’r rhan fwyaf o'r ddawnsio'n hwyl.

Mae pawb yn gwneud camgymeriadau felly does dim pwyntio bys. Does dim aelodaeth ffurfiol, ond fe allwch chi ychwanegu’ch enw at restr bostio os hoffech gael rhaglen (bydden ni’n croesawu cyfraniad at bris y postio). Mae’n ymarfer da (i’r rhai sydd eisiau cadw’n heini), ond cymerwch ofal os oes gennych chi broblem corfforol, er enghraifft anaf i’r cefn.